pwy yr Plant Hapus
Plant Hapus
Menter Gymunedol
John Evans
Gwyl John Evans
Gwasanaethau Addysg
Profiad Celfyddydol
Cartref

Ers 15 mlynedd bellach mae Plant Hapus wedi sefydlu eu hunain fel cwmni arloesol sydd nid yn unig yn hyfforddi ac intigreiddio pobl gyda anhawsterau dysgu, ond hefyd yn chwarae rhan allweddol i ysgogi y gymuned leol i adfywio'r gymuned ac adfer eu hamgylchedd yn unol â gofynion Agenda 21.

Byddai hyn yn galluogi'r gymuned i gyfrannu at warchod ein planed ar gyfer y dyfodol.

Gweledigaeth un o'r pentrefwyr, Gwynn Davies, oedd y fenter, a'i freuddwyd oedd creu cyfleon gwaith i bobl gydag anawsterau dysgu ar y sail mai nid wrth fynnu hawliau ond trwy wasanaethu eraill y gall unigolyn ei dderbyn fel dinesydd cyfartal o fewn cymdeithas.

Ffurfiwyd y cwmni ym 1984 gyda 300 o gyfranddalwyr o'r pentref i gyd yn talu £1.00 yr un. Mae Bwrdd y Cwmni yn cynnwys 20 cyfarwyddwr gyda chroes-doriad eang o sgiliau rheoli.

Plant Hapus yw'r prif gyflogwr yn y pentref, gyda dros 40 o bobl yn gweithio i'r cwmni sy'n cynnwys 20 gydag anawsterau dysgu..