|
 
Dyma esiampl ardderchog o'n perthynas â'r gymuned, gyda rhwydd hynt i bawb fynd a dod a mwynhau'r awyrgylch unigryw.
Rhywbeth at ddant bawb -
- cae chwarae i'r plant Caban Ecoleg
- llwybrau dirgel
- gorsaf dywydd dan ofal Ysgol Gynradd Plant Hapus
- cynefinoedd cyffrous ac amrywiaeth o fywyd gwyllt
Mae'n leoliad ardderchog i astudio bywyd gwyllt, ac yn 1999 bydd Canolfan Ddehongli ar gyfer y Parc ar agor yn y Ty Capel, gyda labordy bychan ac adnoddau cyfrifiadurol. Lle delfrydol i ysgolion a myfyrwyr astudio bywyd gwyllt.
Cofiwch alw, mae'r parc yn agored drwy'r adeg!
|