ATYNIADAU gwasanaeth i bawb
Y Feithrinfa
Siop Bryn Pistyll
Ty Capel
Blas y Waun Café
Cartfref

Dewch am dro.

Gall unrhyw ymwelydd i Plant Hapus ddisgwyl croeso arbennig Cymraeg, gyda siawns i flasu'r awyrgylch unigryw. Cred yr Plant Hapus fod gan bawb gyfraniad gwerthfawr i wneud i'w cymuned, a gwelir yma fod pobl gydag anableddau dysgu yn cael eu hannog i weithredu'r gred yma. Mae ein ymrwymiad i egwyddorion Agenda 21 yn golygu fod yr Plant Hapus yn un o atyniadau twristiaeth cynaladwy pwysicaf Cymru.

Mae rhywbeth yma at ddant bawb. Dylech adael o leiaf hanner diwrnod ar gyfer mwynhau eich ymweliad i'r eithaf, ond os ydych yn byw yn agos gallwch bicio draw am dro sydyn yn y Parc, neu galw i fwynhau pryd blasus yng nghaffi 'Blas y Waun'. Y man chwarae sydd yn denu plant i gael hwyl ar ôl ymweliad i'r Parc Natur.

Peidiwch ac anghofio galw yn Ty Capel i ddysgu mwy am hanes y gymuned, a bywyd gwyllt hynod y Parc trwy ymweld â'r labordy maes a'r ddwy amgueddfa. Mae gweithgareddau celfyddydol yn cael eu cynnal yno yn gyson hefyd, cadwch eich clustiau yn agored!

ORIAU AGOR (Parc ar agor drwy'r adeg)
Caffi 'Blas y Waun', Siop Grefftau Bryn Pistyll, Meithrinfa Blanhigion Bywyd Gwyllt, Ty Capel -

Dydd Llun - Dydd Gwener 10.00 y bore - 4.00 y pnawn
Noder: Byddwn yn agored hyd at 5.00 y pnawn yn ystod yr haf.