|
Creuwyd y gwasanaeth ailgylchu gyda'r bwriad o hwyluso'r broses ailgylchu i'r gymuned leol tra'n ehangu ystod sgiliau ein gweithwyr.
Byddai hyn yn galluogi'r gymuned i gyfrannu at warchod ein planed ar gyfer y dyfodol.
Erbyn heddiw mae wedi datblygu o'r 4 gweithiwr gwreiddiol i'r sefyllfa bresennol ble cyflogir 15 o bobl ynghyd â nifer o fyfyrwyr sydd yn ymuno â ni yn rheolaidd o ysgolion arbennig a cholegau lleol.
Ym mis Gorffennaf 2000, lansiwyd prosiect newydd i ailddefnyddio nwyddau gwyn (poptai, oergelloedd, peiriannau golchi a.y.y.b.). Bydd y gwasanaeth yma yn rhedeg law yn llaw a'r cynllun dodrefn ar safle newydd yn Stâd Cibyn, Caernarfon.
Cred y cwmni fod dyfodol ailgylchu yn seiliedig ar greu rhwydwaith o sefydliadau ailgylchu cymunedol, yn ddelfrydol fod y deunyddiau nid yn unig yn cael eu casglu yn lleol, ond y byddant yn cael eu hailddefnyddio yn lleol yn ogystal.
Gellir rhannu gwaith y Gwasanaeth Ailgylchu yn bedair prif ran - safleoedd cymunedol, gwasanaethau busnes, cynllun dodrefn, ac addysg.
|